Ar ben hynny, yng nghyfleuster Clubhouse, bydd y newidiadau canlynol yn effeithiol o ddydd Llun 14 Medi:
Gall uchafswm o chwech o bobl o ddwy aelwyd gwrdd dan do ac yn yr ardal awyr agored.
Bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i staff lletygarwch a bar wisgo gorchuddion wyneb.
Bydd gofyn i gwsmeriaid wisgo gorchuddion wyneb wrth symud o gwmpas y tu mewn i bob rhan o'r clubhouse fel mynd i mewn neu adael y lleoliad neu fynd i'r tŷ bach nes eistedd yn eu man eistedd.
Byddaf yn diweddaru ein protocol ar gyfer ailgyflwyno golff a'r protocol ar gyfer dychwelyd i letygarwch yn unol â'r newidiadau perthnasol ac yn anfon copi wedi'i ddiweddaru o'r ddwy ddogfen heno.
Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'n holl aelodau am eu cydweithrediad parhaus yn ystod y cyfnod heriol hwn.