Rydyn ni yma i gefnogi pobl i ailadeiladu eu bywydau ar ôl strôc. Rydyn ni'n credu bod pawb yn haeddu byw'r bywyd gorau posibl ar ôl strôc.
Rydym yn darparu cefnogaeth arbenigol, yn ariannu ymchwil hanfodol ac yn ymgyrchu i sicrhau bod pobl yr effeithir arnynt gan strôc yn cael y gofal a'r gefnogaeth orau i ailadeiladu eu bywydau.
Mae ailadeiladu bywydau ar ôl strôc yn ymdrech tîm. Mae'n cymryd penderfyniad goroeswyr strôc a gofalwyr, haelioni cefnogwyr ac ymroddiad y cymunedau gofal iechyd ac ymchwil i gyrraedd yno.
Mae ein hymchwil yn helpu i wella triniaethau, gofal ac adsefydlu - gan achub miloedd o fywydau a helpu goroeswyr strôc i wneud yr adferiad gorau posibl.